|
|
|
|
|
Felinfoel Brewery
|
|
|
Pentref bychan ger Llanelli yw Felinfoel. Pentref yw sydd wedi datblygu o gwmpas y felin. O tua chanol yr 1830au, canolfan gwaith y pentref oedd bragdy Felinfoel. Heddiw, cyflogwyd nifer o bobl leol gan y gweithfeydd Camford Pressings a Calsonic sydd yn Felinfoel. Llanelli oedd canolfan diwydiant Cymru. “Daeth y dref mor enwog am ei chynnyrch fel y cafodd yr enw Tinopolis.” Cafodd nifer o ddynion y dref eu cyflogi i weithio yn y diwydiannau. “Am gyfnod o gan mlynedd byddai dyfodol Llanelli yn nwylo gweithwyr tun a gweithwyr ffowndri.” Cymerai bragdy Felinfoel enw’r pentref fel enw swyddogol. Dywed haneswyr lleol fod y “dafarn leol yn bragu ei chwrw ei hun, ond yn ystod misoedd y gaeaf yn unig.” Yn ôl haneswyr, “The keeping qualities and the strength of the beers, therefore, were of prime importance and the popularity of ‘Felinfoel Beer’ led to the local inn brewing for other inns in the locality.” Roedd yr angen am gwrw Felinfoel mor boblogaidd yn ystod cyfnod pryd roedd cwrw’n bwysig iawn dechreuwyd bragu fwy a mwy. “I gyfarfod a’r galw cynyddol yma adeiladwyd bragdy ym 1878 sy’n dal ar ei draed heddiw.” Yn ôl y Llanelli Star, “This in turn, led to the present brewery being built in 1878 to accomadate demand.” Sefydlwyd gan David John, perchennog gweithfeydd tunplat a haearn yn Llanelli. Brynodd dafarn ‘Y King’s Head’ yn Felinfoel dros y ffordd i’w gartref yng nghanol yr 1830. “Yn anffodus y drws nesaf i’r dafarn oedd tollborth (tyrpeg) a oedd yn culhau y ffordd ac yn rhwystro trafnidiaeth.” Ar ddiwedd yr undegwythfed ganrif roedd llawer o broblemau efo’r Merched Beca. Roedd y bobl yn ceisio osgoi cael eu bwgwth ganddynt gan wneud eu gorau gan gael gwared ar unrhyw beth a fydd yn denu eu sylw. “Roedd y doll borth yn gadach coch i darw, gan fod dilynwyr Beca yn rhuthro i gwmpas Sir Gaerfyrddin yn terfysgu.” Roedd y Merched Beca yma yn ymosod ar dollau gan actio drama i ‘rhoi siawns iddo’ yng nghyntaf ac wedyn ei daro i lawr, tra byddent wedi gwisgo lan fel menywod. “Oherwydd y teimlad cryf yn erbyn yr awdurdodau penderfynodd David John newid enw’r dafarn gan ddileu pen y brenin – ‘King’s Head’ a’i galw Yr Undeb, the ‘Union Inn’.” Bragwyd cwrw ei hun yn yr Union a phrofwyd i fod yn boblogaidd iawn. Gwerthwyd y cwrw i dafarnau eraill ac “Ar ôl cynnydd yn y galw adeiladwyd bragdy mawr newydd yn 1878 gyferbyn a’i gartref ‘Pantglas’.” Codwyd yr adeilad enfawr yma ar fin y ffordd fawr. Y bragdy oedd ganolbwynt y gymdeithas gan ei fod yn cyflogi tua hanner cant o bobl y pentref. Dywedodd pentrefwr yn ddiweddarach; “Mi bron pob teulu a chwt mochyn yng ngwaelod eu gardd ac ar y diwrnod y cyflogwyd bwtsiar i ladd y mochyn rhaid oedd cludo caniau o ddw^r berwedig o’r bragdy i lanhau a chrafu’r mochyn. Roedd rhai o bobl yr ardal yn mofyn dwr poeth i wneud eu golchiad wythnosol, ac eraill yn mynd i’r bragdy i fenthyg ystol neu hogi arfau yn cael eu hesgus i fynd i mewn am beint.” Cafodd stryd ar bwys y bragdy yr enw ‘Heol y Ffermwyr’ gan fod ffermwyr lleol yn mynd i mewn ar ddiwrnod bragu er mwyn cael y stwnsh soeglyd i’w gasglu i borthi eu hanifeiliaid.
|
|
|
|
Still Can't Find What Your Looking For? Then Try a Essay Search! |